Dewch i gwrdd â’ch arwyr cymunedol lleol yn Sgwâr y Frenhines, Wrecsam!
PostiwydBydd digwyddiad teuluol rhad ac am ddim yn cael ei gynnal gyda’ch holl arwyr cymunedol lleol yn Sgwâr y Frenhines ddydd Sadwrn 28ain Mai rhwng 10.30am a 3pm.
Gyda’r heddlu, y gwasanaeth tân, y gwasanaeth ambiwlans, timau achub mynydd a'r Fyddin Brydeinig – mae’r digwyddiad yn gyfle unigryw i ddod draw i gwrdd â’ch arwyr cymunedol lleol wyneb yn wyneb, a bydd amrywiaeth eang o weithgareddau’n cael eu cynnal.
Bydd y diwrnod yn digwydd yn ardal Llwyn Isaf a Sgwâr y Frenhines.
Dyma’r asiantaethau sydd wedi cytuno i ddod hyd yma:
- Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru
- Heddlu Gogledd Cymru
- Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru
- Y Fyddin
- Y Tîm Achub Mynydd
- Ambiwlans Sant Ioan Cymru
- Beiciau Gwaed
- Ymatebwyr Cyntaf Gwledig Wrecsam
- Cyfoeth Naturiol Cymru
- Calon FM
- Y Groes Goch
- Cadetiaid Tân
- Wardeiniaid Cyngor Sir Ddinbych
- Ymatebwyr 4 x 4 Cymru
- Grŵp Cwnsela'r Ffenics
Bydd confoi o gerbydau argyfwng yn mynd o Ganolfan Adnoddau’r Gwasanaethau Ambiwlans a Thân Wrecsam ar Ffordd Croesnewydd i Sgwâr y Frenhines erbyn dechrau’r digwyddiad.
Bydd y digwyddiad yn dechrau am 10.30 y bore, a bydd yn cynnwys arddangosiadau byw gan ddiffoddwyr tân, ymarferion gan y fyddin ac ymarferion gyda cherbydau.
Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru sy’n arwain y digwyddiad, a’i nod yw cysylltu â phobl ifanc ac oedolion fel ei gilydd.
Dywedodd Tim Owen, Rheolwr Partneriaethau a Chymunedau Ardal y Dwyrain gyda Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru: “Dyma’r digwyddiad cyntaf o’i fath i ni yn Wrecsam, ac mae’r paratoadau’n mynd yn dda yn barod, gydag asiantaethau ychwanegol yn ymuno bob dydd.
"Bydd yn dod ag amrywiaeth enfawr o wahanol sefydliadau, gan roi cyfle i gysylltu â theuluoedd lleol tra’n lledaenu’r gair am ein gwaith yn diogelu ein cymunedau – yn ogystal â chreu bwrlwm a naws achlysur yn y dref, gobeithio. Diolch yn fawr i Gyngor Sir Wrecsam am eu cymorth i drefnu’r digwyddiad.
“Gobeithio y gallwch ddod atom ar y diwrnod, ac edrychwn ymlaen at arddangos ein gwaith i’r cymunedau a wasanaethwn.”