Tân mewn tŷ yn y Rhyl
PostiwydMae diffoddwyr tân ar hyn o bryd yn bresennol mewn tân mewn tŷ yn y Rhyl.
Cafodd pum peiriant tân eu galw i adroddiadau am y tân yn Stryd yr Afon, Y Rhyl am 21.56 o'r gloch.
Mae dau oedolyn a dau blentyn wedi cael eu hachub gan ddiffoddwyr tân.
Roedd wyth o bobl wedi gadael yr eiddo eu hunain cyn i'r criwiau tân gyrraedd.
Darparodd gweithredwyr rheoli tân ganllawiau achub bywyd i ddeiliaid dros y ffôn cyn i'r criwiau gyrraedd.
Mae criwiau tân yn debygol o fod yn bresennol am beth amser.
Cynghorir trigolion lleol i gau ffenestri a drysau os yw mwg yn yr ardal yn effeithio arnynt.
Nid yw achos y tân yn hysbys eto.