Dangoswch Barch ar Noson Tân Gwyllt
PostiwydMae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn gweithio ochr yn ochr gydag Ymddiriedolaeth y GIG, Gwasanaethau Ambiwlans Cymru a Heddlu Gogledd Cymru i apelio am help i gadw pobl yn ddiogel yn ystod y tymor tân gwyllt.
Dywedodd Dave Hughes, Pennaeth Diogelwch Tân Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru: "Mae nifer y digwyddiadau ry’n ni’n eu mynychu ac sy'n ymwneud â thân gwyllt a choelcerthi wedi gostwng yn aruthrol gan fod y cyhoedd wedi gwrando ar ein hapêl i fynychu arddangosfeydd sydd wedi eu trefnu yn hytrach na chynnau eu tân gwyllt eu hunain gartref.
"Gallwch weld rhestr o'r arddangosfeydd sydd wedi eu trefnu rydym yn eu cefnogi yng ngogledd Cymru ar ein gwefan yma.
"Os ydych chi'n penderfynu cynnau tân gwyllt neu gael coelcerth, byddem yn apelio ar bawb i ddangos PARCH drwy ddilyn y cyngor a nodir isod."
Parchwch y Côd Tân Gwyllt
Cofiwch mai ffrwydron yw tân gwyllt, ac felly dylid eu trin â pharch a dilyn cyfarwyddiadau'r gwneuthurwr a'r Tân gwyllt.
Cofiwch gadw'n ddiogel a dilyn y Côd Tân gwyllt.
Dyma ein cyngor:
- Cynlluniwch eich arddangosfa tân gwyllt i'w wneud yn ddiogel a phleserus, a sicrhewch ei fod yn gorffen cyn 11pm
- Prynwch dân gwyllt sy'n cario'r marc CE, cadwch nhw mewn blwch caeedig a ddefnyddiwch un ar y tro
- Darllenwch a dilynwch y cyfarwyddiadau ar bob tân gwyllt gan ddefnyddio tortsh os oes angen
- Taniwch y tân gwyllt o hyd braich gyda thapr a sefwch ymhell yn ôl
- Cadwch fflamau noeth, gan gynnwys sigaréts, i ffwrdd o dân gwyllt
- Peidiwch byth a dychwelyd at dân gwyllt wedi iddo gael ei gynnau
- Peidiwch a rhoi tân gwyllt yn eich poced a pheidiwch byth â'u taflu
- Cyfeiriwch unrhyw rocedi tân gwyllt ymhell oddi wrth pobl sy’n gwylio
- Peidiwch byth a defnyddio paraffîn na phetrol ar goelcerth
- Gwnewch yn siŵr fod y tân wedi ei ddiffodd a bod yr ardal o gwmpas yn cael ei wneud yn ddiogel cyn gadael.
Parchwch y gwasanaethau brys
Dywedodd Stephen Sheldon, o’r Gwasanaeth Ambiwlans Cymru: “Mae hon yn noson brysur ac mae pwysau mawr ar yr holl wasanaethau brys ar draws y rhanbarth, felly ry’n ni’n annog y cyhoedd i’n helpu ni a diogelu eu hunain, eu teuluoedd, eu cymdogion a'u ffrindiau drwy aros yn ddiogel a pheidio â mentro.
“Gellir osgoi anafiadau llosgi yn enwedig trwy ddilyn y cod Tân Gwyllt.
“Os ydych chi'n cael llosg, sicrhewch eich bod chi'n:
- Symud y person i ffwrdd o'r ffynhonnell wres
- Oeri'r llosg gyda dŵr llugoer neu ddŵr claear am 20 munud
- Tynnu unrhyw ddillad neu emwaith sy'n agos i'r man sydd wedi’i losgi
- Gwneud yn siŵr fod y person yn cadw'n gynnes
- Gorchuddio’r llosg gan ddefnyddio haenen o cling film neu blastig glân
- Defnyddio poenladdwyr fel paracetamol neu ibuprofen
- Ewch i dudalen Llosgiadau a sgaldiadau ar wefan GIC Cymru111
- Defnyddio’r adran frys ar gyfer trawma difrifol, anafiadau neu afiechydon
- Ffonio 999 dim ond pan fo argyfyngau difrifol neu ddigwyddiad sy'n bygwth bywyd
Parchwch eich cymdogion
Mae tân gwyllt yn gallu codi ofn ar bobl ac anifeiliaid. Mae henoed a phlant yn aml yn ofnus ac yn cael eu dychryn gan sŵn tân gwyllt. Ffrwydron yw tân gwyllt wedi’r cyfan. Dywedwch wrth eich cymdogion os ydych chi'n bwriadu cynnau tân gwyllt ac osgowch brynu rhai swnllyd iawn. Byddwch yn ystyriol wrth gael parti tân gwyllt a sicrhewch bod y sŵn drosodd erbyn 11pm.
Ni chewch danio tân gwyllt rhwng 11pm a 7am, heblaw am:
- Noson Tân Gwyllt, pan fo'r terfyn am hanner nos
- Nos Galan, Diwali a'r Flwyddyn Newydd Tsieineaidd, pan fo’r terfyn am 1am
Dywedodd yr Arolygydd Wesley Williams o Heddlu Gogledd Cymru: "Ry’n ni’n gobeithio eleni, fel sydd wedi digwydd dros y blynyddoedd, fod pobl yn cymryd agwedd gyfrifol tuag at noson Tân Gwyllt. Ry’n ni'n gwybod bod y mwyafrif o bobl yn mwynhau'r amser yma o'r flwyddyn yn synhwyrol a dydyn ni ddim yma i sbwylio eu hwyl - ond yn anffodus mae lleiafrif sydd â'u bryd ar achosi problemau a defnyddio'r cyfnod fel esgus i gyflawni trosedd a gweithredu'n wrthgymdeithasol. Ry’n ni am weithio gyda'n cymunedau i sicrhau eu bod yn gallu mwynhau eu hunain yn ddiogel.
“Bydd ein timau, ochr yn ochr â phartneriaid allan ar draws y rhanbarth – gan helpu i addysgu, tawelu meddwl a chadw ein cymunedau'n ddiogel. Am yr wybodaeth ddiweddaraf ac i helpu gyda'n hymgysylltiad, cofrestrwch i dderbyn Rhybuddion Cymunedol – Rhybudd Cymunedol Gogledd Cymru
“Mae'r galw ar wasanaethau brys yn cynyddu'n sylweddol yn ystod yr adeg hon o'r flwyddyn. Er mwyn ein helpu i gadw ein llinellau’n rydd i'r rhai sydd ein hangen fwyaf, sicrhewch eich bod yn cysylltu â'r asiantaeth fwyaf perthnasol ac yn defnyddio'r dull mwyaf priodol o gysylltu.”