Mae ymgynghoriad yn nesáu hanner ffordd: Eich gwasanaeth tân ac achub – y lle iawn, yr amser iawn, y sgiliau iawn
PostiwydMae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru bellach yn nesáu hanner ffordd drwy ein ymgynghoriad cyhoeddus i gasglu adborth gan y rhai sy'n byw, yn gweithio ac yn teithio yn y rhanbarth am y ddarpariaeth o wasanaeth brys yn y dyfodol yng Ngogledd Cymru.
Dywedodd y Dirprwy Brif Swyddog Tân, Stewart Forshaw: “Diolch i bawb sydd eisoes wedi cymryd rhan yn ein hymgynghoriad – mae eich barn yn wirioneddol bwysig, rydym eisiau gwybod beth mae pobl yn ei feddwl ac rydym yn croesawu eich holl adborth.
“Mae dros 750 o bobl wedi cwblhau ein holiadur ar-lein ac rydym yn eich gwahodd i gymryd y cyfle hwn i ddweud eich dweud.
“Mae’r ymgynghoriad hwn yn bwysig i bawb yng Ngogledd Cymru ac mae deall eich barn yn allweddol – a dyna pam yn ogystal â darparu gwybodaeth ar ein gwefan a holiadur i’w gwblhau ar-lein rydym hefyd yn cynnal digwyddiadau ymgynghori ar draws Gogledd Cymru.
“Heddiw rydym yn y Llyfrgell Rydd yn Nolgellau am 2pm a heno byddwn yn Neuadd Abersoch am 7pm – dewch draw i’n gweld. Mae’n gyfle i ddarganfod mwy ac i ofyn cwestiynau.
“Os na allwch chi wneud y digwyddiadau hyn yn bersonol yna wythnos nesaf ar ddydd Mawrth 5 Awst, rydyn ni hefyd yn eich gwahodd i gymryd rhan yn un o’n digwyddiadau ar-lein.”
Gallwch ddarganfod mwy ar ein gwefan a sut i gymryd rhan yma.
I gofrestru ar gyfer digwyddiad ar-lein, cliciwch ar y ddolen isod. Unwaith y byddwch wedi cofrestru, bydd dolen i'r cyfarfod a gwahoddiad calendr yn cael eu hanfon ar e-bost.
2pm - Cliciwch yma i gofrestru ar gyfer y digwyddiad 2pm.
7pm - Cliciwch yma i gofrestru ar gyfer y digwyddiad 7pm.
Bydd y penderfyniad terfynol ar yr opsiynau yn cael ei wneud gan yr Awdurdod Tân unwaith y bydd yr ymgynghoriad wedi'i gwblhau a'r adborth wedi'i goladu.