Ymgynghoriad ar y gweill: Eich gwasanaeth tân ac achub – lle iawn, amser iawn, sgiliau iawn
PostiwydDiolch i bawb sydd eisoes wedi cymryd rhan yn ein hymgynghoriad ar ddyfodol gwasanaeth brys yng Ngogledd Cymru. Mae eich barn yn bwysig iawn ac rydym yn croesawu eich holl adborth.
Mae’r ymgynghoriad hwn yn bwysig i bawb yng Ngogledd Cymru ac mae deall eich barn yn allweddol – gallwch ddarganfod mwy ar ein gwefan ac am sut i gymryd rhan yma.
Dywedodd y Prif Swyddog Tân Dawn Docx: “Rydym wedi gwrando ar yr hyn yr ydych wedi’i ddweud ers i ni lansio’r ymgynghoriad yr wythnos diwethaf – yn arbennig am ein digwyddiadau ymgysylltu cymunedol. Rydym yn deall bod trafod y materion hyn yn lleol yn bwysig i’n staff a’n cymunedau.
“Rydym felly’n diwygio ein hamserlen o’r digwyddiadau hyn i’w gwneud mor hygyrch â phosibl i bawb – bydd y rhestr ar ein gwefan yma yn cael ei diweddaru’n fuan i adlewyrchu hyn.
“Rydym yn hwyluso’r digwyddiadau hyn yn bennaf fel y gallwn ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych am oblygiadau’r tri opsiwn sy’n cael eu cyflwyno yn ein hymgynghoriad – hoffem annog sgyrsiau agored am yr holl opsiynau posibl. Maent hefyd yn gyfle i bobl rannu eu meddyliau gyda'i gilydd.
“Byddwn yn casglu eich holl adborth sy’n cael ei ddadansoddi’n annibynnol ac yna’n cael ei gyflwyno i’r Awdurdod Tân ac Achub yn yr Hydref.”
Dywedodd Cadeirydd yr Awdurdod Tân ac Achub, y Cynghorydd Dylan Rees: “Yr her yw dod o hyd i’r cydbwysedd cywir i ddarparu’r gwasanaeth tecaf i bob cymuned.
“Mae Opsiynau 1 a 2 yn darparu ymateb brys gwell mewn ardaloedd gwledig lle mae’r cyflenwad lleiaf ar hyn o bryd.
“Mae Opsiwn 3 yn lleihau ymateb y gwasanaeth tân ac achub ac yn cynyddu risg. Fodd bynnag, mae’n golygu gofyn i aelwydydd dalu llai am wasanaethau tân ac achub ar adeg pan fo cyllidebau’n heriol ac felly roedd yn bwysig cynnwys hyn fel opsiwn i’r cyhoedd ei ystyried.
“Mae aelodau’r Awdurdod Tân ac Achub eisiau gwybod beth yw eich barn am yr opsiynau ar gyfer darparu gwasanaeth brys cyn i ni gyfarfod i wneud unrhyw benderfyniadau terfynol am ddarpariaeth yn y dyfodol.
“Y ffordd orau o fynegi eich barn yw llenwi holiadur yr ymgynghoriad sydd ar gael ar-lein a bydd copïau papur hefyd ar gael yn y digwyddiadau.
“Mae’r digwyddiadau ymgysylltu yn gyfle i gael rhagor o wybodaeth i’ch helpu i benderfynu ar yr opsiynau.
“Bydd dau o’r digwyddiadau ymgysylltu ymgynghori yn cael eu cynnal ar-lein i sicrhau bod pawb yn cael cyfle i fod yn bresennol.”