Marwolaeth preswylydd ar ôl tân mewn eiddo yn Llandrillo-yn-Rhos
PostiwydMae dyn oedrannus wedi marw yn dilyn tân mewn eiddo yn Llandrillo-yn-Rhos.
Cafodd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru eu galw i’r eiddo ar Marston Drive am 8.34 o’r gloch gan Heddlu Gogledd Cymru ar ôl iddyn nhw dderbyn adroddiad yn ymwneud â phryder am ddiogelwch y preswylydd.
Cadarnhaodd swyddogion yr heddlu fod arwyddion o dân yn yr eiddo a bu darganfod yr ymadawedig, y credir ei fod yn ei 80au, mewn ystafell wely.
Mynychodd un peiriant tân o Fae Colwyn y lleoliad ynghyd â swyddogion tân sy’n cynnal ymchwiliad ar y cyd i’r digwyddiad gyda Heddlu Gogledd Cymru.
Dywedodd Justin Evans o Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru: “Rydym yn cydymdeimlo’n ddwys â’r teulu ar yr adeg anodd hon. Mae hwn yn ddigwyddiad trasig a bydd yn peri gofid mawr i'r rhai sy'n ymwneud yn uniongyrchol a'r cymuned ehangach
“Nid yw achos y tân wedi’i benderfynu eto ac mae bellach yn destun yr ymchwiliad ar y cyd.”