Rhybudd i gadw draw o ddŵr agored a chadw cŵn ar dennyn yn dilyn dau ddigwyddiad achub dŵr o fewn tridiau yn llyn Parc Acton
PostiwydMae diffoddwyr tân yn mynegi eu pryderon ac yn apelio ar drigolion i gadw draw o ddŵr agored a chadw eu cŵn ar dennyn wrth fynd â nhw am dro yn dilyn dau ddigwyddiad achub o fewn ychydig ddyddiau yn Llyn Parc Acton, Wrecsam.
Cafodd criwiau eu galw i'r llyn brynhawn Sul ac yna eto’r bore 'ma am 08.42 o'r gloch – roedd y ddau ddigwyddiad yn ymwneud â dyn a chi.
Fel yr eglura Tim Owen, Rheolwr Partneriaethau a Chymunedau Ardal y Dwyrain Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru:
"Rydym yn gofyn i bawb fod yn ymwybodol o beryglon dŵr agored, yn enwedig yn ystod amodau rhewllyd – cadwch draw o ymyl y dŵr, ac os ydych chi'n mynd â’r ci am dro, cofiwch ei gadw ar dennyn.
"Os ydych chi'n gweld rhywun mewn trafferth ar neu wrth y dŵr, neu os ydy’ch ci neu'ch anifail anwes yn disgyn i mewn, mae'n hollbwysig nad ydych chi'n mynd i mewn hefyd.
"Os ydych chi’n gweld bod rhywun mewn trafferth yn y dŵr, ffoniwch 999 a gofynnwch am y gwasanaeth tân ac achub os ydych wrth ddyfroedd mewndirol neu wylwyr y glannau os ydych ar yr arfordir.
"Pan mae rhywun mewn trafferth yn y dŵr, mae'r reddf i neidio i mewn a helpu yn gallu bod yn llethol, ond gall hyn arwain yn gyflym at drasiedi heb yr hyfforddiant a’r offer cywir. Allwn ni ddim rhagweld sut mae dŵr yn mynd i ymddwyn a gall ceisio achub un person arwain at chwilio am ddau berson yn gyflym iawn.
"Cyngor yr ymgyrch Parchwch y Dŵr ydy os gwelwch chi rywun mewn trafferth yn y dŵr, y ffordd orau o helpu ydy trwy beidio â chynhyrfu, aros ar y tir, a dilyn y canllaw achub 3 cham – Ffoniwch 999 a gofyn am y gwasanaeth cywir, Dywedwch wrthyn nhw i arnofio ar eu cefn a Thaflwch rywbeth sy'n arnofio atyn nhw."
Ychwanegodd Darren Williams, Prif Swyddog Amgylchedd a Thechnegol Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam: "Dylai pawb fod yn fwy gofalus pan maen nhw ar lan unrhyw lyn yn y fwrdeistref sirol ac mae ein Ceidwaid Parc Gwledig yn cynnal archwiliadau diogelwch yn rheolaidd o fewn ac o amgylch dŵr yn ein parciau i roi digon o rybuddion ar waith a chodi ymwybyddiaeth am ddiogelwch dŵr."
Mae rhagor o gyngor ar wefan Parchwch y Dŵr yma: Parchwch y Dŵr