Lawnsiad Siarter Tanau Gwyllt Cymru
PostiwydLansiwyd Siarter Tanau Gwyllt cyntaf Cymru yn Sioe Amaethyddol Frenhinol Cymru, Llanelwedd, Ddydd Llun 24 Gorffennaf 2023. |
Mae Siarter Tanau Gwyllt Cymru yn ddogfen strategol allweddol sy’n amlinellu ymrwymiadau Bwrdd Tanau Gwyllt Cymru, sy'n cynnwys asiantaethau allweddol o bob rhan o Gymru, ac mae’n nodi sut byddent yn rheoli'r risg o danau gwyllt, gan leihau ei effaith ar yr amgylchedd ac ar gymunedau Cymru. Dywedodd Iwan Cray, Cadeirydd Bwrdd Tanau Gwyllt Cymru a Dirprwy Brif Swyddog Tân Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru: "Mae ein Siarter Tanau Gwyllt newydd wedi'i seilio ar wybodaeth a phrofiad y mae’r partneriaid ar y Bwrdd wedi'u hennill dros y degawd diwethaf wrth iddynt fynd i’r afael ag effaith tanau gwyllt ledled Cymru. "O dan ymagwedd gydweithredol Bwrdd Lleihau Tanau Bwriadol Strategol, rydym wedi gweld llwyddiannau sylweddol, a gyflawnwyd trwy lawer iawn o benderfyniad a gwaith caled gan yr holl asiantaethau dan sylw. Fodd bynnag, mae tanau gwyllt ledled Cymru yn parhau i beri perygl clir a phresennol i'n hamgylchedd, ein heconomi a'n cymunedau. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, rydym wedi gweld yr arwyddion cynnar o lwyfannu yn nifer y digwyddiadau, gan nodi bod angen dull newydd i sicrhau y gallwn ddelio â'r heriau sy'n dod i'r amlwg yr ydym yn eu hwynebu." Dywedodd Andrew Wright, Cadeirydd Bwrdd Tanau Gwyllt Cymru ac Uwchgynghorydd Arbenigol – Iechyd Planghigion a Throslglwyddo Gwybodaeth gyda Chyfoeth Naturiol Cymru: “Mae ein siarter tanau gwyllt wedi'i llunio o amgylch tair thema allweddol, pob un wedi'i chynllunio i sicrhau ein bod yn gallu canolbwyntio ar y meysydd hynny sydd nid yn unig angen y sylw mwyaf, ond a fydd hefyd yn cael y dylanwad mwyaf o ran gwella ein dealltwriaeth o danau gwyllt a sut y gall y Bwrdd reoli eu heffaith mewn ffordd gadarnhaol.” Mae themâu'r Siarter Tanau Gwyllt yn cynnwys: Partneriaethau – Trwy weithio mewn partneriaeth sy'n esblygu, byddwn yn dod â Llywodraeth Cymru, y Gwasanaethau Brys, Sefydliadau Cyhoeddus a Phreifat, Tirfeddianwyr a Defnyddwyr Tir at ei gilydd i reoli ac i ddatblygu ein tirwedd. Cydnerthedd Amgylcheddol a Chymunedol – Byddwn yn cyfrannu at reoli ein tirwedd er mwyn diogelu bywyd gwyllt; coedwigaeth a bywoliaethau; i wella lles, iechyd ac amwynder, i hwyluso cynhyrchu bwyd cynaliadwy, ac i greu ymdeimlad o le a pherchnogaeth gymunedol. Atal ac Amddiffyn – Byddwn yn gweithredu ystod amrywiol o dechnegau rheoli er mwyn lleihau effaith tanau gwyllt ar ein cymunedau a'r dirwedd yng Nghymru. Mae tanau gwyllt yn gyfrifol am ddinistrio miloedd o hectarau o gefn gwlad, mannau agored a chynefinoedd bywyd gwyllt bob blwyddyn. Bydd Partneriaid y Bwrdd Tanau Gwyllt yn ymrwymo i weithio gyda'n cymunedau er mwyn creu tirwedd sy’n iachach ac yn fwy cydnerth, a hynny trwy wella bioamrywiaeth cefn gwlad ar gyfer ein dyfodol. Nod Bwrdd Tanau Gwyllt Cymru, gyda’u dull amlasiantaethol o ymdrin ag ymwybyddiaeth tanau gwyllt, yw ymgysylltu â chynulleidfaoedd amrywiol, cydweithio er mwyn cefnogi’r gwaith o reoli tanau gwyllt, a gwrando a rhannu datrysiadau ymarferol ar gyfer Cymru. Drwy ddefnyddio’r dull cydweithredol hwn, mae’r asiantaethau sy’n rhan o Fwrdd Tanau Gwyllt Cymru yn gobeithio cynnig gwell dealltwriaeth o'r hyn y gellir ei wneud i gyfyngu ar nifer y tanau gwyllt, a thrwy hynny leihau'r difrod y gallant ei achosi i'n hamgylchedd.
|