Edrych ar ôl ein gilydd y Nadolig hwn - Lansiad ymgyrch dydd sadwrn nesa yn gêm RGC
PostiwydRydym yn ymuno â'n partneriaid gwasanaethau brys a Rygbi Gogledd Cymru (RGC) i lansio ein hymgyrch diogelwch ar gyfer yr ŵyl, sy'n galw ar bob un ohonom i helpu i gadw ein cymunedau'n ddiogel trwy ddilyn awgrymiadau diogelwch tân syml a gofalu am ein gilydd y Nadolig hwn.
Bydd yr ymgyrch yn cael ei lansio ar Ddiwrnod Golau Glas ym Mharc Eirias ddydd Sadwrn, 25 Tachwedd.
Ar Ddiwrnod Golau Glas bydd y gwasanaethau brys yn bresennol ac yn cynnal amrywiaeth o weithgareddau i gysylltu â'u cymunedau.
Bydd mynediad am ddim i'r gêm yn erbyn Clwb Rygbi Merthyr ar gyfer personél y gwasanaethau brys os ydynt yn dangos cerdyn adnabod perthnasol.
Bydd y gatiau'n agor am 1pm, gyda'r gic gyntaf am 2.30pm.
Eglurodd Kevin Jones, Pennaeth Atal, Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru,
"Gweithio gyda'n gilydd ac edrych ar ôl ein gilydd yw'r hyn rydyn ni'n ei wneud yn ddyddiol gyda'n cydweithwyr yn y gwasanaethau brys - ac ar y cae rygbi, mae chwaraewyr RGC yn gweithio fel tîm gan gadw llygad ar eu cyd-chwaraewyr yn ogystal â'r bêl bob amser.
"Dyna pam ein bod yn teimlo mai Diwrnod Golau Glas Parc Eirias oedd y lle perffaith i lansio ein hymgyrch diogelwch tân ar gyfer Nadolig 2023, a byddwn yn siarad â chefnogwyr yma yn y gêm 'Golau Glas' arbennig hon am sut i gadw'n ddiogel a chadw eraill yn ddiogel dros gyfnod yr ŵyl.
"Mae'r cyfnod cyn y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd yn aml yn gyfnod prysur iawn - felly rwy’n galw arnoch chi i gymryd ychydig funudau i ystyried diogelwch tân a meddwl sut y gallech chi helpu teulu, ffrindiau neu gymdogion i gadw'n ddiogel rhag tân y Nadolig hwn, a sicrhau bod ganddynt larymau mwg sy’n gweithio wedi'u gosod yn eu cartref."
Ychwanegodd Alun Pritchard, Rheolwr Cyffredinol RGC: "Rydym wrth ein bodd yn cefnogi lansiad Ymgyrch Diogelwch Nadolig Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru ac rydym yn annog ein holl gefnogwyr i helpu i amddiffyn ffrindiau, teulu a chymdogion trwy gadw llygad ar ei gilydd y Nadolig hwn."
Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn annog pobl i gadw'n ddiogel ac amddiffyn eu cartrefi rhag tân drwy ddilyn y deuddeg awgrym ar gyfer diogelwch tân dros y Nadolig a’u rhannu gydag eraill:
- Gwnewch yn siŵr fod eich goleuadau Nadolig yn cydymffurfio â'r Safon Brydeinig. Defnyddiwch RCD bob amser ar offer trydanol awyr agored (Mae hon yn ddyfais ddiogelwch a all achub bywydau trwy ddiffodd y pŵer ar unwaith).
- Peidiwch byth â rhoi canhwyllau ger eich coeden Nadolig, eich dodrefn neu eich llenni. Peidiwch â'u gadael yn llosgi heb fod unrhyw un yn cadw llygad arnynt.
- Gwnewch yn siŵr bod eich teulu ac ymwelwyr dros gyfnod yr ŵyl yn gwybod beth i'w wneud mewn argyfwng. Sicrhewch eich bod yn ymarfer cynllun i ddianc rhag tân.
- Gall addurniadau losgi'n hawdd - peidiwch â'u gosod yn sownd i oleuadau neu wresogyddion.
- Diffoddwch offer trydanol pan nad ydynt yn cael eu defnyddio, oni bai eu bod wedi'u cynllunio i aros ynghyn.
- Cymerwch ofal arbennig gyda goleuadau Nadolig. Diffoddwch nhw bob amser a thynnu’r plwg o’r wal cyn i chi fynd i'r gwely. Mae'r Nadolig yn adeg pan fyddwn yn defnyddio mwy o eitemau trydanol - peidiwch â gorlwytho socedi a phlygiau. Yn lle hynny defnyddiwch socedi lluosog ar lid sydd â’r ffiws priodol ar gyfer mwy nag un teclyn.
- Mae'r rhan fwyaf o danau yn dechrau yn y gegin - peidiwch byth â gadael pethau i goginio heb fod unrhyw un yn cadw llygad arnynt. Mae'r risg o ddamweiniau, yn enwedig yn y gegin, yn fwy ar ôl yfed alcohol.
- Os ydych chi'n bwriadu dathlu gyda thân gwyllt, sicrhewch eich bod yn eu storio mewn blwch metel, darllenwch y cyfarwyddiadau, peidiwch byth â mynd yn ôl at dân gwyllt wedi'i gynnau a chadwch fwcedaid o ddŵr gerllaw.
- Sicrhewch fod sigaréts wedi’u diffodd yn llwyr
- Gwiriwch y batri yn eich larwm mwg bob wythnos a defnyddiwch y Nadolig i'ch atgoffa i'w lanhau a gwaredu llwch ohono.
- Cadwch ganhwyllau, tanwyr a matsis allan o gyrraedd plant.
- Cymerwch amser i wneud yn siŵr bod perthnasau a chymdogion oedrannus yn iawn y Nadolig hwn. Gwnewch yn siŵr eu bod yn ddiogel rhag tân, yn ogystal â gwirio eu lles.
Ewch i'n tudalen Facebook i gymryd rhan yn ein cystadleuaeth 12 diwrnod o ddiogelwch y Nadolig sy'n dechrau fis nesaf a chael cyfle i ennill £30 mewn talebau archfarchnad www.facebook.com/northwalesfire