‘Sbarc’ y masgot diogewlch tân yn ymweld ag Ysgol Pencae i ledaenu'r gair am diogelwch tân gwyllt a coelcerthi
PostiwydCafodd disgyblion Ysgol Penycae, Wrecsam ymweliad arbennig gan y gwasanaeth tân ac achub i lansio cystadleuaeth lliwio coelcerthi a than gwyllt ac hefyd i hyrwyddo’r llwyfan dysgu dwyieithog newydd rhad ac am ddim ‘StayWiseCymru’.
Mae StayWiseCymru (www.staywisecymru.co.uk) yn dwyn ynghyd adnoddau addysgol y gwasanaethau brys golau glas a sefydliadau golau glas sydd wedi’u cynllunio i gyd-fynd â’r cwricwlwm newydd yng Nghymru.
Mae'r wefan yn cynnig cynlluniau gwersi, fideos a thaflenni gweithgareddau yn rhad ac am ddim i helpu addysgwyr i ddysgu pobl ifanc am gyngor a allai achub bywydau ym meysydd dysgu a phrofiad y cwricwlwm. Mae hefyd yn cynnig adnoddau i’w defnyddio yn y cartref. Yn ogystal â hyn, gall athrawon osod gwaith i fyfyrwyr o'r safle fel rhan o gynllun dysgu o bell y gall rhieni a gofalwyr ei ddilyn.
Cyngor Cenedlaethol y Penaethiaid Tân (NFCC) sy’n arwain y bartneriaeth sydd y tu ôl i StayWiseCymru. Mae'r partneriaid yn cynnwys Cymdeithas Frenhinol Achub Bywyd y DU (RLSS UK), Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Badau Achub (RNLI), Gwylwyr y Glannau EF, Cymdeithas y Prif Weithredwyr Ambiwlans, Cyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu, Addysg, Cyfoeth Naturiol Cymru, a Network Rail.
Bydd y gystadleuaeth lliwio yn helpu hyrwyddo diogelwch tân gwyllt a choelcerthi, a bydd taflenni gweithgareddau’n cael eu hanfon ysgolion dros y rhanbarth i helpu tanio sgyrsiau am gadw’n ddiogel.
Yn ystod yr ymweliad, cafod y disgyblion bag nofio ag adnoddau StayWiseCymru.
Aeth Stuart Millington, Prif Swyddog Tân Cynorthwyol o Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru, i'r ysgol i ddiolch yn bersonol i’r staff. Meddai: "Fel gwasanaeth tân ac achub, rydyn ni wedi ymrwymo i gadw ein cymunedau'n ddiogel. Mae StayWiseCymru’n adnodd newydd gwych y gall pawb ei ddefnyddio.
“Mae’n cynnig deunyddiau addysgol cyson ac effeithiol ar gyfer athrawon, rhieni, gofalwyr a'r gwasanaethau brys er mwyn helpu pobl ifanc i ddysgu am amrywiaeth o bynciau diogelwch.
“Mae mor bwysig bod yr adnodd yn cael ei brofi, ac ni allwn ddiolch digon i staff Ysgol Penycae am yr holl waith yn ein helpu i sicrhau bod y llwyfan yn hawdd ei ddefnyddio ac yn effeithiol.”
Ychwanegodd Lesley Bassett, Rheolwr Prosiect StayWiseCymru:
“Mae StayWiseCymru wedi ymrwymo i achub bywydau drwy addysg. Drwy gael partneriaid i gydweithio, rydym wedi cynhyrchu adnodd dysgu cyson y gall addysgwyr o bob rhan o’r gymuned ei ddefnyddio’n hyderus, boed yn athrawon, yn bobl sy’n addysgu gartref, neu’n staff a gwirfoddolwyr y gwasanaethau brys.
“Mae cydweithio wedi ein galluogi i ddarparu adnoddau diogelwch effeithiol i addysgwyr ledled Cymru, gan sicrhau bod plant a phobl ifanc yn cael negeseuon ataliol ar sut i’w cadw eu hunain yn ddiogel.
Dywedodd Laura McGee, Dirprwy Bennaeth Ysgol Penycae: “Roedden ni i gyd wrth ein bodd yn gweld staff o’r gwasanaeth tân ac achub yma yn yr ysgol.
“Mae gwefan StayWiseCymru yn llwyfan gwych, gydag ystod eang o adnoddau ar gael.
Mae gwefan StayWiseCymru yn hawdd i’w defnyddio – dewiswch grŵp oedran, pwnc, neu thema, ac fe welwch gasgliad o adnoddau i gadw myfyrwyr yn brysur.
Gallwch ddod o hyd iddi nawr yn www.staywisecymru.co.uk
Mae’r cynlluniau gwersi ar Galan Gaeaf / diogewlch Colecerthi ar gael ar y wefan.
Diogelwch Nos Galan Gaeaf | StayWise Cymru
Cadw'n ddiogel ar noson tân gwyllt | StayWise Cymru
Cadw'n ddiogel ar noson tân gwyllt Cyfnod Sylfaen| StayWise Cymru
Cadw'n ddiogel ar noson tân gwyllt (ADY)| StayWise Cymru
Mae mwy o wybodaeth am ddiogelwch tân gwyllt a choelcerthi ac arddangosfeydd wedi'u trefnu sy'n help ar draws Gogledd Cymru ar gael yma: