Diogelwch Nos Calan Gaeaf
PostiwydWrth i Galan Gaeaf agosau, mae diffoddwyr tân yn atgoffa rhieni i amddiffyn eu plant rhag gwisgoedd ffansi fflamychol.
Meddai Paul Kay, Pennaeth Diogelwch Tân: “Rydym eisiau i bobl fwynhau dathlu Calan Gaeaf, ond i wneud yn siŵr eu bod yn gwybod am y peryglon posibl os bydd eu gwisg yn mynd ar dân.
“Mae poblogrwydd gwisgoedd ffansi i blant adeg Calan Gaeaf wedi cynyddu’n fawr yn y blynyddoedd diweddar ac rydym yn rhoi’r cyngor hwn i rybuddio pobl er mwyn iddynt fedru mwynhau eu hunain ac aros yn ddiogel ar yr un pryd.”
Dyma gynghorion diogelwch Paul -
- Edrychwch ar y labeli ar unrhyw wisgoedd ffansi rydych yn eu prynu i weld pa wrthsafiad tân sydd gennynt.
- Defnyddir gynau plastig a sachau bin yn aml fel gwisgoedd – cadwch nhw i ffwrdd o wreichion, canhwyllau neu fflamau noeth eraill.
- Defnyddiwch oleuadau batri mewn lanternau neu bwmpenni. Mae’r rhain yn llawer mwy diogel na chanhwyllau ac yn rhad i’w prynu.
- Byddwch yn arbennig o ofalus gyda chanhwyllau – maent yn beryglus iawn. Os bydd cannwyll yn syrthio drosodd gallai danio deunydd megis gwisgoedd, llenni a dodrefn a chychwyn tân difrifol.
- Os bydd gwisg rydych yn ei gwisgo yn mynd ar dân, y cyngor yw ‘stopiwch, disgynnwch a rholiwch’, gan ei gwneud yn anddach i’r fflamau ymledu.
- Os ydych chi gyda rhywun y mae eu dillad ar dân, d’wedwch wrthyn nhw am stopio, disgyn a rholio, yna diffoddwch y fflamau gyda rhywbeth trwm fel côt neu flanced.
- Mewn argyfwng oerwch unrhyw losg gyda llawer o ddŵr a chael cymorth meddygol ar frys.