Dyddiad cau ymgynghoriad cyhoeddus wedi'i ymestyn
PostiwydMae dros 1,100 o bobl bellach wedi cymryd rhan yn yr ymgynghoriad cyhoeddus i gasglu adborth gan y rhai sy'n byw, yn gweithio ac yn teithio yn y rhanbarth ynghylch darparu gwasanaethau brys yng Ngogledd Cymru yn y dyfodol.
Mae gan y rhai sydd eto i fynegi eu barn tan ddiwedd mis Medi i ddweud eu dweud.
Dywedodd y Prif Swyddog Tân Dawn Docx: “Hoffwn ddiolch yn fawr i bawb sydd wedi cymryd rhan yn ein hymgynghoriad ac i’r rhai sydd wedi bod yn mynychu ein digwyddiadau ymgysylltu cymunedol ar draws y rhanbarth i ofyn cwestiynau ac i fynegi eu barn.
“Rydym yn falch bod cymaint wedi cwblhau ein holiadur, boed ar-lein neu ar bapur, ac yn cymryd rhan yn ein proses ymgynghori.
“Fodd bynnag, rydyn ni wedi bod yn gwrando’n ofalus ar yr hyn rydych chi wedi’i ddweud ers i ni lansio’r ymgynghoriad ar 20 Gorffennaf ac rydyn ni am sicrhau bod gan bawb y cyfle gorau posibl i gofnodi sut maen nhw’n meddwl y dylai ein gwasanaeth brys edrych yn y dyfodol.
“Rydym yn ymwybodol bod yna aelodau o’r cyhoedd, sefydliadau lleol a rhai sy’n cynrychioli eraill yn ein cymunedau o hyd sy’n awyddus i gael mwy o amser i fynegi eu barn.
“Rydym felly wedi gwneud y penderfyniad i ymestyn y dyddiad cau i ddiwedd mis Medi.”
Dywedodd y Cynghorydd Dylan Rees, Cadeirydd yr Awdurdod Tân ac Achub: “Mae’r ymateb hyd yn hyn yn arwydd o ba mor bwysig yw’r ymgynghoriad hwn i bawb yng Ngogledd Cymru ac felly rydym am sicrhau bod gennym ni fel Awdurdod y cyfle gorau posibl o deall eich barn.
“Mae eich adborth yn bwysig – ac rwy’n annog pawb i wneud yn siŵr eu bod yn manteisio i’r eithaf ar y cyfle hwn i roi gwybod i ni beth yw eich barn am yr opsiynau ar gyfer darparu gwasanaeth brys cyn i’r Awdurdod Tân wneud unrhyw benderfyniadau terfynol am ddarpariaeth yn y dyfodol.
“Po fwyaf o bobl sy’n cymryd rhan, y gorau fydd ein rhagolygon o gyflawni’r cydbwysedd cywir o wasanaethau a sicrhau y bydd y cynlluniau gweithredu manwl a ddatblygwn yn cyflawni’n union yr hyn y mae pobl Gogledd Cymru ei eisiau.
“Rwyf hefyd am ei gwneud yn glir bod y Prif Swyddog Tân a minnau’n croesawu unrhyw syniadau newydd ar sut y gallai’r dyfodol edrych a phan ddaw i unrhyw newidiadau i’r gwasanaeth brys, bydd aelodau’r Awdurdod yn ystyried yr holl adborth cyn gwneud penderfyniad terfynol.”
Bydd yr ymgynghoriad nawr yn parhau i fod ar agor tan hanner nos ar 30 Medi 2023.
Eich gwasanaeth tân ac achub chi – y lle iawn, yr amser iawn, y sgiliau iawn
I gymryd rhan, ewch yma i lenwi'r holiadur ac i gael mynediad at yr holl wybodaeth sydd ei hangen er mwyn ymateb i'r cwestiynau.
Gallwch ffonio neu anfon neges at Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru ar 07787 578 386 os byddai'n well gennych gopi caled neu fformat hawdd ei ddarllen, neu e-bostiwch Adolygiaddarpariaethbrys@tangogleddcymru.llyw.cymru.
Gallwch hefyd fynychu un o'r digwyddiadau ymgynghori sy'n cael eu cynnal ar draws Gogledd Cymru ac ar-lein i gasglu adborth – gellir dod o hyd i fanylion yma.
Mae bar offer cynorthwyol ar y wefan ar gyfer darllen yn uchel, testun mwy a'r gallu i weld y wybodaeth mewn ystod eang o ieithoedd ychwanegol.
Dilynwch Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru ar y cyfryngau cymdeithasol i gael y newyddion diweddaraf:
Twitter: @NorthWalesFire
Facebook: @Northwalesfireservice
Neu chwiliwch am 'Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru' ar LinkedIn
Yr Awdurdod Tân fydd yn gwneud y penderfyniad terfynol - bydd manylion y cyfarfod lle gwnaed y penderfyniad ar gael yma, ynghyd â recordiad o'r trafodion.
Ar ôl i'r penderfyniad terfynol gael ei wneud, byddai unrhyw newidiadau i ddarpariaeth brys y gwasanaeth tân ac achub yng Ngogledd Cymru yn digwydd fesul cam, fel rhan o Gynllun Rheoli Risg Cymunedol 2024/28.