Mae Bwrdd Tanau Gwyllt Cymru yn eich annog i fod yn ymwybodol o beryglon tanau gwyllt dros dymhorau’r gwanwyn a'r haf #doethidanaugwyllt
PostiwydGyda’r tymhorau ar dro, a’r addewid o dywydd braf ar y gorwel, dyma adeg dda i fwynhau gweithgareddau yn yr awyr iach, i drefnu gwyliau, i wersylla gyda’r teulu, ac i fwynhau eich ardal leol.
Er hyn, daw’r Gwanwyn a’r Haf â’u peryglon hefyd, oni fyddwch chi’n dilyn canllawiau diogelwch ymarferol a chywir sy’n addas i’r adeg hon o’r flwyddyn. Mae Bwrdd Tanau Gwyllt Cymru yn annog pawb i fod yn Ddoeth i Danau Gwyllt, a thrwy wneud rhai paratoadau syml a chymryd ychydig mwy o ofal gallwn barhau i fwynhau ein cefn gwlad hardd ac i warchod ein cymunedau rhag effeithiau dinistriol tanau gwyllt.
Yr adeg hon o’r flwyddyn, gall glaswelltir a mynyddoedd fod yn sych iawn, sy’n golygu y gall tân sydd wedi’i gynnau y tu allan ledaenu yn gyflym iawn, gan ddinistrio popeth sydd ar ei lwybr.
Yn 2023, ymatebodd gwasanaethau tân ledled Cymru i 1,880 achos o danau glaswellt – roedd hyn yn ostyngiad o 45% o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol, gyda nifer y tanau glaswellt bwriadol wedi gostwng o 1,059 (45%) i 1,301.
Mae’r Bwrdd Tanau Gwyllt yn awyddus i weithio gyda'n cymunedau er mwyn creu tirwedd sy’n iachach ac yn fwy gwydn, a hynny trwy wella bioamrywiaeth ar gyfer ein dyfodol.
Nod ein hymgyrch #DoethiDanauGwyllt yw addysgu unigolion am yr arferion gorau o ran osgoi ac atal tanau gwyllt yng Nghymru.
Trwy wella ymwybyddiaeth o beryglon posibl tanau gwyllt, bydd yr ymgyrch yn annog pobl i fod yn fwy gwyliadwrus pan fyddant allan yn yr awyr iach ac i fod yn weithgar wrth adrodd am weithgareddau amheus a allai arwain at danau.
Gellir atal llawer iawn o danau gwyllt, ac mae ambell i beth bach y gallwn wneud er mwyn cyfyngu ar ba mor aml y maent yn digwydd a chyfyngu ar eu heffaith.
Dywedodd Iwan Cray, Cadeirydd Bwrdd Tanau Gwyllt Cymru a Dirprwy Brif Swyddog Tân Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru: “Mae ein hymgyrch newydd, Doeth i Danau Gwyllt, wedi'i hadeiladu ar sylfaen o wybodaeth a phrofiad a gasglwyd gan bartneriaid ar y Bwrdd wrth iddynt ddelio ag effaith tanau gwyllt ledled Cymru dros y degawd diwethaf.
“Rydym yn annog pob aelod o'n cymunedau i barchu cefn gwlad ac i gyfrannu at warchod ein hamgylchedd a diogelu ein cymunedau.
“Er bod damweiniau'n digwydd, mae modd eu hosgoi hefyd, ac mae ein hymgyrch Doeth i Danau Gwyllt yn canolbwyntio ar addysgu pob un ohonom am rai o’r pethau bychain y gallwn eu gwneud er mwyn sicrhau nad ydym yn cynnau tân glaswellt ar ddamwain.
“Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ategu’r neges hon: er y gall damweiniau ddigwydd, mae rhai yn ein cymunedau ni’n mynd ati’n fwriadol i roi ein cefn gwlad ar dân. Mae hyn yn drosedd, un sy’n arwain at erlyniad, ond mae hefyd yn rhoi pwysau diangen ar ein gwasanaethau rheng flaen ac yn peryglu ein cymunedau. Byddwn yn annog unrhyw un sydd â gwybodaeth am droseddau o'r fath i ffonio 101, neu i gysylltu’n ddienw â CrimeStoppers ar 0800 555 111.”
Dywedodd Andrew Wright, Dirprwy Gadeirydd Bwrdd Tanau Gwyllt Cymru ac Uwch Gynghorydd Arbenigol - Iechyd Planhigion a Throsglwyddo Gwybodaeth gyda Chyfoeth Naturiol Cymru: “Mae’r terfyn amser ar gyfer llosgi wedi’i osod ar 31 Mawrth 2024 am reswm, sef diogelu ein hamgylchedd naturiol. Byddai llosgi heb drwydded yn hwyrach na hyn yn torri rheolau Trawsgydymffurfio, a gallai arwain at rai taliadau, gan gynnwys y Cynllun Taliad Sylfaenol neu gynlluniau datblygu tir Datblygu Gwledig (e.e. Glastir) yn cael eu lleihau, eu hawlio’n ôl neu eu hatal. Byddaf yn gweithio'n agos gyda'r Tasglu, a byddwn yn annog y gymuned ffermio i barchu'r gofyniad hwn ac i wneud eu rhan i gadw ein cymunedau'n ddiogel.
“Mae'n hanfodol bwysig ein bod i gyd yn parhau i gydweithio i greu tirwedd sy’n iachach, yn wytnach, ac â mwy o fioamrywiaeth yma yng Nghymru, gan wneud popeth allwn ni i ddiogelu'r adnodd gwerthfawr hwn ar gyfer y dyfodol.
“Rydyn ni eisiau gweithio gyda chymunedau, ffermwyr, a pherchnogion tir er mwyn rhannu ein gwybodaeth a'n dealltwriaeth o'r effaith mae tanau bwriadol a damweiniol yn ei chael ar ein cymunedau. Rydyn ni’n deall bod llosgi dan reolaeth yn gallu cael effaith gadarnhaol ar yr amgylchedd, gan greu bioamrywiaeth ac ecosystem gynaliadwy ac rydyn ni ar gael i roi cyngor am ddim ar sut i wneud hyn yn ddiogel.”
Trwy weithio gyda'n cymunedau i rannu gwybodaeth, mae Bwrdd Tanau Gwyllt Cymru yn gobeithio gwella dealltwriaeth o'r hyn y gall y Gwasanaeth ei wneud i atal tanau damweiniol rhag digwydd ac i gyfyngu ar y difrod y gallant ei wneud i'r amgylchedd.
Gallwch ddysgu mwy am #DoethiDanauGwyllt 2024 drwy fynd i (new website link) Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, yn ogystal â chael awgrymiadau diogelwch syml a negeseuon diogelwch yr ymgyrch i'w lawrlwytho a’u defnyddio ar eich sianeli cyfryngau cymdeithasol eich hun. Gyda'n gilydd, gallwn atal tanau glaswellt ac amddiffyn ein cefn gwlad a Chymru.
Cofiwch - os ydych allan yng nghefn gwlad ac yn gweld unrhyw un yn ymddwyn yn amheus, ffoniwch CrimeStoppers yn ddienw trwy alw 0800 555 111, neu ffoniwch 101. Os yw’n argyfwng, ffoniwch 999 bob tro.